Ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2016, mae *The Revlon Girl* wedi datblygu o fod yn waith newydd ac anhysbys i fod yn un o’r dramâu y siaradwyd fwyaf amdanynt yn y blynyddoedd diweddar; gan ennill canmoliaeth aruthrol gan feirniaid a’r gynulleidfa fel ei gilydd – nid yn unig yn y DU ond yn rhyngwladol hefyd.
Gyda chast trawiadol sy’n cynnwys menywod yn unig, cafodd y cynhyrchiad hwn – a enwebwyd am wobr Olivier – lwyddiant yn y lle cyntaf yn ystod ei daith gyntaf yng Nghymru ym mlwyddyn 50fed pen-blwydd Trychineb Aberfan; aeth ymlaen i fod yn llwyddiant ysgubol annisgwyl yng Ngŵyl Caeredin cyn symud i Lundain, lle cafwyd cyfres o berfformiadau a werthodd bob tocyn.
Ar hyd y ffordd, enillodd ddim llai na phum enwebiad ‘Off-West End’ (gan gynnwys ‘Cynhyrchiad Gorau’ ac ennill gwobr ‘Offie’ am y ‘Ddrama Orau’); enwebiad Olivier am ‘Cyflawniad Eithriadol’ cyn cael ei henwi’n ‘Ddramâu’r Flwyddyn’ a dod i’r brig mewn pleidlais cynulleidfa ar gyfer ‘Y 5 Sioe Orau Erioed’ yn y Park Theatre yn Llundain. Yn dilyn hynny, cafodd y ddrama lwyddiant annibynnol yn Ne Affrica, gan gael ei pherfformio am y tro cyntaf yn y National Arts Festival (lle enillodd y wobr fawreddog ‘Silver Ovation Award’) cyn symud i gyfres o berfformiadau llwyddiannus iawn yn Nelson Mandela Square yn Johannesburg. Pan gafodd ei chyhoeddi gan Samuel French Ltd yn 2018, arweiniodd hyn at gyfres o berfformiadau newydd ledled y byd – o Awstralia i Seland Newydd, Twrci a’r Unol Daleithiau.
Yn seiliedig ar ddigwyddiadau yn dilyn Trychineb Aberfan, mae *The Revlon Girl* yn stori gyffredinol am ddewrder a gwydnwch; stori wir am alar, colled a hiwmor – a adroddir yn bwerus gan y rhai a ddarganfu’r nerth i barhau ar ôl colli cymaint.