Mae’r pianydd cyngherddau rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones yn dychwelyd i Ucheldre ar ôl galw mawr am gyfres o gyngherddau prynhawn Sul ym mis Mawrth, Mehefin, Awst a Hydref 2023.
Wrth ddewis y themâu ar gyfer ei bedwar datganiad, mae Iwan wedi cael ei ysbrydoli gan dirwedd hudolus Cymru. Mae hefyd yn talu teyrnged i artistiaid enwog sy’n gysylltiedig ag Ynys Môn gan gynnwys Kyffin Williams, Charles Tunnicliffe, Gwilym Pritchard, Claudia Williams a Philippa Jacobs. Ymunwch ag Iwan wrth iddo berfformio rhai o’r gweithiau piano clasurol mwyaf poblogaidd erioed.
Ar gyfer y cyntaf o’i gyngherddau piano prynhawn Sul yn 2023, bydd Iwan yn perfformio detholiad o glasuron mwyaf poblogaidd Chopin, Liszt, Schumann, a Brahms, tra’n talu teyrnged i’r artist, Syr Kyffin Williams gyda’i drawsgrifiadau ei hun o ganeuon gan Meirion Williams. i gyd-fynd â delweddau o baentiadau mwyaf eiconig yr artist.
Te hufen prynhawn ar ôl y Cyngerdd ar gael yng Nghegin Ucheldre. Archebwch y rheini drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01407 763361.
Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur:
Dydd Sul Mehefin 18fed am 3pm
Dydd Sul 13eg Awst am 3pm
Dydd Sul 15fed Hydref am 3pm