Tri gŵr ifanc o berfeddion Cymru, gyda’i hanes hirfaith o fynychu’r capel yw VRï , sydd wedi mynd ati i gloddio i gynnwrf diwylliannol y canrifoedd diwethaf ac wedi cael eu hysbrydoli gan stori anhygoel cyfnod pan gafodd cerddoriaeth a dawns draddodiadol Cymru eu llethu gan gapeli’r Methodistiaid, ac, yn gynharach, ei hiaith gan y Ddeddf Uno. Fel archaeolegwyr sain, mae VRï wedi darganfod perlau hirgolledig sy’n taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog sy’n harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, harddwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn dafarn. Mae eu caneuon, a genir gyda harmonïau lleisiol pwerus, yn adrodd straeon am y bobl oedd yn brwydro 200 mlynedd yn ôl, yn yr un modd ag y mae llawer yn brwydro heddiw. Mae’n seinwedd hyfryd ac unigryw sy’n cysylltu ar draws y canrifoedd i roi ymdeimlad o berthyn, o gymuned i ni, a theimlad hudolus o ddiffyg pwysau a rhyddid dyrchafol.
VRï yw Jordan Price Williams (soddgrwth, llais), Aneirin Jones (ffidil, llais) a Patrick Rimes (fiola, ffidil, llais)
‘full of the fervent energy of these three players, this is ingenious ‘ chamber trad’, something brand new for wales.’
GEORGIA RUTH, RADIO CYMRU