Daw chwe dawn gerddorol aruthrolo Gymru a Lloegr ynghydar gyfer cydweithrediad unigryw ac arbennig a fydd yn mynd â’u hathrylith unigol i’r lefel nesafgyda’i gilydd.Mae ALAW,y“Welsh supergroup” (Songlines) yn dathlu cerddoriaeth draddodiadol Cymru gydag angerdd heintus, gan gyfuno cyfansoddi caneuon pwerus gydag alawon gwreiddiol. Mae VRï wedi ennill yr Albwm Orau yng Ngwobrau Gwerin Cymru ddwywaith, ac yn asioprydferthwch tannau clasurol â hedoniaeth sesiwn dafarn, y cyfan wedi’u rhwymo â harmonïau lleisiol pwerus.Mae Hannah James yn gerddor, yn gantores ac yn ddawnswraig gyfareddol, arloesol a ddisgrifiwyd fel “a true original” (The Guardian). A hithau’n enwog fel un o’r acordionyddion gorau ar y sîn werin ym Mhrydain, mae ei dawn gerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r traddodiad.