Yn lle panto Nadolig ystrydebol, mae Binderella yn stori ar gyfer ein hoes, chwedl geni wyllt Gwrth-Dduwies sy’n herio grymoedd trachwant ac anobaith sy’n ceisio dwyn ein dyfodol oddi wrthym.
Mae’r stori ryfeddod anarchaidd hon yn sbecian drwy holltau ein cymdeithas, gan asio cri rali amgylcheddol â galwad ddyrchafol am dosturi a dewrder yn yr oes hon o argyfwng.
Mae Cudyll Coch, Heulwen a Magpie, yn plethu eu gweledigaeth glytwaith unigryw, gan bwytho egni amrwd adrodd straeon pync ag edefyn brawychus o alaw werin a chân Gymreig yn yr epig hynod fodern hon.