Cyfansoddwyd gan Lenny Sayers Libretydd a Chyfarwyddwr Brendan Wheatley
Perfformiad cyntaf opera newydd ddyrchafol a hygyrch wedi’i lwyfannu gan Opera Dinas Abertawe ac yn seiliedig ar straeon teimladwy a doniol aelodau Men’s Sheds Cymru
Mae’r sefydliad unigryw hwn yn cefnogi dynion unig drwy greu mannau cynnes a chroesawgar lle gall pobl ddysgu sgiliau newydd, meithrin cyfeillgarwch, gwneud dechreuadau newydd ac yfed te!
Trwy wrando ar straeon a rhannu chwerthin ‘Shedders’, creodd Brendan stori a libreto Shoulder to Shoulder. Y cyfansoddwr a’r clarinetydd Lenny Sayers, y mae ei gerddoriaeth wedi’i darlledu ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a BBC Radio Scotland, ysgrifennodd y sgôr.