Dechreuais ffilmio sglefrfyrddio yn 2003 ar gamera bach 250mb. Daeth yn hobi i mi ddal pethau fel maen nhw ac felly trwy flynyddoedd o addysg a llwyth o brofiadau gwaith, des i’n fideograffydd llawrydd yn 2017.
Yn fy ngweithdai gwneud ffilmiau, byddaf yn dadansoddi’r technegau ac yn dangos y broses sut i greu ffilm syml i bobl ifanc. Bydd yn cymryd 3 diwrnod. Y diwrnod cyntaf fydd cyn-gynhyrchu, yr ail ddiwrnod fydd dewis tîm cynhyrchu ac ymarfer technegau ffilmio. Y trydydd diwrnod fydd ffilmio’r ffilm.
Bydd hyn yn cyrraedd uchafbwynt gyda ffilm orffenedig a fydd yn cael ei dangos ddydd Sadwrn Tachwedd 1af fel rhan o Ffilmiau Made Anglesey yng Ngŵyl Ffilmiau SeeMôr.