Cafodd noson agoriadol y bale ym 1948, gyda Moira Shearer a Michael Somes yn y prif rannau, dderbyniad cynhyrfus. Ar ôl dros ddegawd i ffwrdd o lwyfan y Tŷ Opera Brenhinol, mae ailwampiad bythol Ashton o stori carpiau-i-gyfoeth enwog Charles Perrault yn dychwelyd, gan arddangos dawn gerddorol y coreograffydd a harddwch sgôr drosgynnol Prokofiev. Mae tîm creadigol sydd wedi’i drwytho yn hud theatr, ffilm, dawns ac opera yn dod ag awyrgylch newydd i fyd ethereal Cinderella o famau bedydd a cherbydau pwmpen, tywysogion golygus a dod o hyd i wir gariad.