Sori iawn ond mae’r cyngerdd wedi gorfod cael ei ohirio. Cadwch lygad ar agor am ddyddiad newydd.
Mae cerddoriaeth y pianydd a’r canwr-gyfansoddwr o Fanceinion, Ollie West, wedi newid yn aruthrol ers ei flynyddoedd ffurfiannol yn chwarae ar nosweithiau meic agored yn 14 oed. Wedi’i ysbrydoli i ddechrau gan gerddoriaeth Billy Joel, Elbow a Joni Mitchell, mae ysgrifennu Ollie wedi archwilio jazz, gwerin, cerddoriaeth byd, pop, roc, prog a cherddoriaeth glasurol i greu swn unigryw fel dim a glywsoch erioed o’r blaen.
Nawr, ynghyd ag aelodau hir y band Ashley Garrod, Pete Leaver a James Cooke, mae’r band yn croesawu’r chwaraewr corn tenor Nat Martin, y feiolinydd Aninka Nesporova a’r offerynnwr taro, y lleisydd cefndir a phopeth rhyngddynt Raye Harvey i’r gorlan i ffurfio Ollie West & Y Blodau Gwylltion.
Mae’r dyfodol yn ddisglair i’r ensemble ifanc hwn. Mae deng mlynedd o baratoi wedi arwain at y diwrnod hwn, ac yn awr maent yn barod i gymryd y sîn gerddoriaeth yn y DU gan storm; ydych chi’n barod i’w croesawu?