Balchder Gogledd Cymru

Cerddoriaeth
Sadwrn 18 Gorffennaf 7:00 pm
Mae Balchder Gogledd Cymru yn dod i Gaergybi elenil.
Parti Balchder Gogledd Cymru / North Wales Pride Party
Mae Balchder Gogledd Cymru yn dod i Gaergybi eleni. Yn dilyn gweithgareddau ledled y dref yn ystod y dydd, rydym yn dathlu ein cariad at yr holl bobl cwiar yn ein cymunedau trwy gael Parti Balchder Cymreig!
Bydd y gomediwraig Katie Gill yn cadw trefn ar y noson felly disgwyliwch jôcs ddwyieithog, drag a dawnsio.
Byddwn hefyd yn croesawu ei mawrhydi Serenity a’i Theulu Brenhinol, Heather Boa, Opal Rose ac Iris Effect.
Bydd y diva o gyfres cyntaf Y Llais, Liam J Edwards yn perfformio rhai o’u caneuon newydd sbon.
Yn ogystal, bydd y Brenin bythgofiadwy, Justin Drag, yn dathlu 10 mlynedd yn y busnes efo set DJ arbennig ar gyfer y noson hudolus hon.
Bydd y dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain Lauren a Rachel yn ymuno â’n rhestr ysblennydd ar y llwyfan.
Does dim rhaid i chi fod yn hoyw i gael amser da! Rydym yn annog pobl i ddod â’u ffrindiau, dod â’u neiniau a ddod â’u plant wrth i ni anelu at adeiladu pontydd yn ein cymunedau lleol, nid creu mannau allgáu.
£12 Full, £12 Solidarity, £8 concessions
Holyhead Boatyard

Cysylltwch

Cyfeiriad:
Ucheldre Centre, Millbank, Holyhead, Isle of Anglesey, LL65 1TE
Ffôn: 01407 763361
E-bost:

Oriau Agor:
10am – 5pm Dydd Llun – Dydd Sadwrn
2pm – 5pm Dydd Sul

© 2022 Hawlfraint Ucheldre Caergybi