Bydd y gyfres haf o weithdai canu gyda Marian Bryfdir yn cychwyn ar yr 20ed o Ebrill.
Cyfle da i gychwyn canu neu i ailgydio os ydych wedi methu ychydig o sesiynau dros y gaeaf.
Bydd y gyfres newydd mewn ffurf ychydig yn wahanol yn ymateb i ddeisyfiad cantorion a chyn-gantorion.
Mi fydd y dosbarth yn y bore (13.30–12.00) yn canolbwyntio yn arbenig ar ddysgu caneuon o
ddulliau amrywiol a’u datblygu dros y gyfres..
Bydd y sesiwn prynhawn (13.00–15.00) yn parhau fel o’r blaen gyda’r pwyslais ar dechnegau lleisiol a sgiliau perfformio gyda sesiwn byr ar y diwedd i baratoi caneuon newydd.