Mae’r pianydd cyngherddau rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones yn dychwelyd i Ucheldre ar ôl galw mawr am yr olaf o’i gyngherddau prynhawn Sul.
Wrth ddewis y themâu ar gyfer ei bedwar datganiad, cafodd Iwan ei ysbrydoli gan dirwedd hudolus Cymru. Mae hefyd yn talu teyrnged i artistiaid enwog sy’n gysylltiedig ag Ynys Môn gan gynnwys Kyffin Williams, Charles Tunnicliffe, Gwilym Pritchard, Claudia Williams a Philippa Jacobs. Ymunwch ag Iwan wrth iddo berfformio rhai o’r gweithiau piano clasurol mwyaf poblogaidd erioed.
Cyhoeddir manylion gweithiau cyngerdd olaf y gyfres yn fuan.