Dewch i ymuno â cherddorion ifanc eraill i greu set, ymarfer a pharatoi i berfformio’n fyw fel act gefnogi i’r band lleol FLORES yng Nghanolfan Ucheldre.
Boed hwn yn gig cyntaf i ti neu os wyt ti’n chwilio am fwy o brofiad, dyma gyfle i ddatblygu dy gerddoriaeth, magu hyder a pherfformio ar lwyfan!
Dyddiadau’r gweithdai: 10/9, 24/9, 8/10, 22/10, 29/10