Beatrice and Benedict

Opera
Mercher 8 Tachwedd 7:30 pm
Wedi'i ddwyn i Ucheldre gan Opera Canolbarth Cymru

Mae Opera Canolbarth Cymru ar daith eto gyda’r chweched cynhyrchiad LlwyfannauLlai, sydd wedi cael canmoliaeth enfawr. Y tro hwn byddant yn cyflwyno opera llawn hiwmor Berlioz Beatrice and Benedict, sy’n seiliedig ar Much Ado About Nothing Shakespeare.

Mae Beatrice a Benedict ill dau yn benderfynol o aros yn sengl. Mae Beatrice yn fenyw sy’n casáu dynion (yn enwedig Benedict) ac ni all Benedict oddef merched (yn enwedig Beatrice). Hynny yw, nes bod eu ffrindiau’n cynllwynio i ddod â nhw at ei gilydd a’r ddau, yn ‘ddamweiniol’, yn gorglywed sibrydion am angerdd y naill at y llall; mae gwreichion cariad yn cael eu tanio gan glecs ac yn datblygu’n gyflym yn dân gwyllt tanbaid.

Mae opera derfynol Berlioz yn gosod ar gerddoriaeth chwyrlwynt afresymegol syrthio mewn cariad, gan ddod â dyfeisgarwch cynnes i Shakespeare nas gwelwyd gan gyfansoddwr arall. Mae angerdd oes Berlioz dros Shakespeare yn amlwg drwy gydol ei sgôr wyrthiol, yn pelydru gyda chariad ac yn pefrio ag egni, ac yn cynnwys y ddeuawd nosol, ganolog enwog, y darn harddaf a ysgrifennodd Berlioz erioed efallai.

Mae cynhyrchiad OCC yn cynnwys chwech o gantorion a phedwar offerynnwr, gyda chyfansoddiad Saesneg o’r caneuon gan Amanda Holden, ynghyd â thestun gwreiddiol Shakespeare sydd wedi ei addasu gan Richard Studer a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness.

Perfformir yn Saesneg.

Cantorion

Beatrice: Monica McGhee
Benedict: Huw Ynyr
Hero: Lorena Paz Nieto
Claudio: John Ieuan Jones
Leonata: Stephanie Windsor-Lewis
Don Pedro: Matthew Stiff

Cerddorion

Violin: Elenid Owen
Cello: Nicola Pearce
Clarinet: Peryn Clement-Evans
Piano: Jonathan Lyness

1awr 45 (gan gynnwys un egwyl)
£15, £12 gostyngiadau, £5 plant
Holyhead Boatyard

Cysylltwch

Cyfeiriad:
Ucheldre Centre, Millbank, Holyhead, Isle of Anglesey, LL65 1TE
Ffôn: 01407 763361
E-bost:

Oriau Agor:
10am – 5pm Dydd Llun – Dydd Sadwrn
2pm – 5pm Dydd Sul

© 2022 Hawlfraint Ucheldre Caergybi