Ymunwch â Clara mewn parti hyfryd Noswyl Nadolig sy’n troi’n antur hudol unwaith y bydd pawb arall yn swatio yn y gwely. Rhyfeddwch at ddisgleirdeb sgôr Tchaikovsky, wrth i Clara a’i Nutcracker hudolus frwydro yn erbyn Brenin y Llygoden ac ymweld â’r Sugar Plum Fairy yn Nheyrnas ddisglair y Melysion. Mae cynhyrchiad poblogaidd Peter Wright ar gyfer The Royal Ballet, gyda chynlluniau cyfnod hyfryd gan Julia Trevelyan Oman, yn cadw’n driw i ysbryd y clasur bale Nadoligaidd hwn, gan gyfuno gwefr y stori dylwyth teg â dawnsio ysblennydd.
Coreograffi Peter Wright ar ôl Lev Ivanov
Cerddoriaeth Pyotr Il’yich Tchaikovsky
Senario wreiddiol Marius Petipa ar ôl E.T.A. Hoffman
Cynhyrchiad a senario Peter Wright
Dylunydd Julia Trevelyan Oman
Cynllunydd goleuo Mark Henderson
Ymgynghorydd cynhyrchu Roland John Wiley
Arweinydd Andrew Litton