Mae Canolfan Ucheldre yn cyflwyno sgyrsiadau a darlleniadau gan awduron blaenllaw yn rheolaidd, a noddir yn aml gan y Gymdeithas Lenyddol. P D James, Simon Brett, a Celia Skidmore yw rhai o’r awduron sydd wedi sôn am eu gwaith o lwyfan Ucheldre.
Ymunwch â Claire Mace am ailadroddiad dwyieithog o stori Olwen, merch y cawr yr oedd ei gwallt yn felynach na'r banadl a’i bochau’n gochach na blodau bysedd y cŵn.