Mae gan Ynys Môn dreftadaeth gyfoethog o gelf fodern. Mae llawer o’i hartistiaid byw yn aelodau o Fforwm Celfyddydau Ynys Môn, sydd hefyd yn cydlynu Wythnosau Celf Ynys Môn bob mis Ebrill.
Mae’r prif arddangosiadau celf yn cwmpasu holl ystod y celfyddydau gweledol, o baentio clasurol i gerflunio avant-garde, ac yn darparu cyfleoedd i artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol eu harddangos. Maent fel arfer yn newid bob chwe wythnos, ac fe’u lleolir yn y gofod arddangos a’r brif neuadd.
Mae detholiad o gelf ar werth yng Nghegin Ucheldre a’r siop.