Mae Ray Bubbles, Swigenolegydd Rhyngwladol a Deiliad Record Byd Guinness, ar genhadaeth i feistroli celfyddyd gwneud swigod a chreu’r swigen sgwâr eithaf!
Mae’r sioe hon yn addo corwynt o gyffro a syrpreisys, wrth i Ray ddefnyddio amrywiol nwyon gwahanol i greu cerfluniau swigod trawiadol, effeithiau ac arddangosfeydd hudolus.
Paratowch i gael eich synnu wrth i Ray greu swigen llosgfynydd, carwsél swigod sebon, ysbryd swigod, a hyd yn oed corwynt y tu mewn i swigen!
Ysbrydolwyd y sioe gan waith Ray gydag ysgolion SEND, grwpiau niwroamrywiol oedolion, a chanolfannau gwyddoniaeth ledled Ewrop.
Mae’r perfformiad yn addas ar gyfer plant ac oedolion ag anghenion ychwanegol.
Ymunwch â Ray a gweld a all greu’r swigen sgwâr eithaf!
