Hugan Fach Goch sy’n gyfrifol am ddosbarthu bara i’w Nain, yn ddwfn yng nghanol y goedwig stori dylwyth teg. Ond ar y ffordd, mae Coch yn cwrdd â Blaidd cyfrwys sy’n ei thwyllo i ddilyn llwybr gwahanol. Ar hyd y ffordd, mae Coch yn baglu i mewn i gast lliwgar o gymeriadau, gan gynnwys gwrach frawychus, cath siarad a Phedler digon perswadiol. Ymunwch â’n band ragtag o gerddorion gwyllt wrth iddynt dywys y teulu cyfan drwy’r stori enwog hon gyda throeon trwstan, hud a chân newydd.
Canu yn Saesneg gydag isdeitlau