Mae llawer ohonom yn adnabod ac yn caru twyni tywod fel tirweddau arfordirol hardd, ond maent hefyd yn ardaloedd pwysig o ran bioamrywiaeth. Mae twyni yn noddfa i rywogaethau prin sydd wedi addasu’n berffaith i fyw mewn tywod. Mewn twyni iach, fe allech chi weld tegeirianau, llyffantod, adar a madfallod yn ffynnu!
Yn 2023 ymunodd Prosiect Twyni Deinamig, Ucheldre a Wild Elements i helpu ymwelwyr a thrigolion Ynys Môn i ddarganfod twyni tywod Rhosneigr, trwy gelf. Yn yr arddangosfa hon, fe welwch rai o’r gweithiau a grëwyd, ffilm o Stiwdio Cybi (a gefnogir gan CultureStep), astroffotograffiaeth gan Dylan Parry Evans a mwy!