Mae gan The Sleeping Beauty le arbennig iawn yng nghalon a hanes y Bale Brenhinol. Hwn oedd y perfformiad cyntaf a roddwyd gan y Cwmni pan ailagorodd y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden ym 1946 ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Yn 2006, adfywiwyd y llwyfaniad gwreiddiol hwn ac mae wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ers hynny. Cyfeiriodd Frederick Ashton yn enwog at glasuriaeth bur bale Marius Petipa o’r 19eg ganrif fel gwers breifat yng nghelf a chrefft atmosfferig coreograffi.