ROH Ballet Live: The Nutcracker

Dawns
Iau 8 Rhagfyr 7:15 pm
Ymunwch â Clara mewn parti hyfryd Noswyl Nadolig sy'n troi'n antur hudol unwaith y bydd pawb arall yn swatio yn y gwely.

Rhyfeddwch at ddisgleirdeb sgôr Tchaikovsky, wrth i Clara a’i Nutcracker hudolus frwydro yn erbyn Brenin y Llygoden ac ymweld â’r Sugar Plum Fairy (Fumi Kaneko) a’i Thywysog (William Bracewell) yn y Deyrnas ddisglair o Felysion. Mae cynhyrchiad poblogaidd Peter Wright ar gyfer The Royal Ballet, gyda chynlluniau cyfnod hyfryd gan Julia Trevelyan Oman, yn cadw’n driw i ysbryd y clasur bale Nadoligaidd hwn, gan gyfuno gwefr y stori dylwyth teg â dawnsio clasurol ysblennydd.

3 awr a 45 munud (gan gynnwys un egwyl)
£13, £11 gostyngiadau, £4 plant
Holyhead Boatyard

Cysylltwch

Cyfeiriad:
Ucheldre Centre, Millbank, Holyhead, Isle of Anglesey, LL65 1TE
Ffôn: 01407 763361
E-bost:

Oriau Agor:
10am – 5pm Dydd Llun – Dydd Sadwrn
2pm – 5pm Dydd Sul

© 2022 Hawlfraint Ucheldre Caergybi