Mae’r arddangosfa, PERTHYNAS, yn ganlyniad cydweithio rhwng Dementia Actif Gwynedd (DAG), tîm cynhyrchu opera Y Bont/The Bridge a’r ffotograffydd Ian Smith. Mae’n rhan o brosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru o’r enw ‘Byw gyda dementia: Archwiliad operatig i hybu dealltwriaeth a lleihau stigma’.