The Playboy of the Western World gan John Millington Synge
Cyfarwyddwr: Caitríona McLaughlin
Mae bywyd Pegeen Flaherty yn cael ei droi ben i waered pan mae dyn ifanc yn cerdded i mewn i’w thafarn gan honni ei fod wedi lladd ei dad. Yn lle cael ei osgoi, mae’r llofrudd yn dod yn arwr lleol ac yn dechrau ennill calonnau, hynny yw nes i ail ddyn gyrraedd yn annisgwyl ar y llwyfan…
Wedi’i ffilmio’n fyw ar lwyfan yn y Theatr Genedlaethol, mae Caitríona McLaughlin yn cyfarwyddo’r stori dywyll, ddoniol hon sy’n llawn cyfrinachau.