gan Bernard Shaw
cyfarwyddwyd gan Dominic Cooke
Mae enillydd Gwobr Olivier bum gwaith, Imelda Staunton (The Crown), yn ymuno â’i merch go iawn, Bessie Carter (Bridgerton), am y tro cyntaf erioed, gan chwarae mam a merch yng nghlasur moesol tanbaid Bernard Shaw.
Mae Vivie Warren yn fenyw o flaen ei hamser. Mae ei mam, fodd bynnag, yn gynnyrch yr hen drefn batriarchaidd honno. Mae manteisio arni wedi ennill ffortiwn i Mrs. Warren – ond am ba gost?
Wedi’i ffilmio’n fyw o’r West End, mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn ailuno Staunton â’r cyfarwyddwr Dominic Cooke (Follies, Good), gan archwilio’r gwrthdaro rhwng moesoldeb ac annibyniaeth, traddodiadau a chynnydd.