Mae rhamant gain Strauss yn dod â hud a lledrith Fienna’r 19eg ganrif i sinemâu ledled y byd mewn cynhyrchiad moethus gan y cyfarwyddwr chwedlonol Otto Schenk sydd “mor brydferth ag y gallai rhywun obeithio” (The New York Times). Mae’r soprano Rachel Willis-Sørensen yn serennu fel yr arwres deitl, uchelwraig ifanc sy’n chwilio am gariad ar ei thelerau ei hun. Y soprano ddisglair Louise Alder yw ei chwaer, Zdenka, a’r bas-bariton Tomasz Konieczny yw’r iarll cain sy’n ysgubo Arabella oddi ar ei thraed.