Ymunwch ag Iwan am yr ail o’i gyngherddau piano prynhawn Sul. Mae’r daith gerddorol gyfareddol hon yn cychwyn yn nhirweddau mawreddog Sgandinafia, yna’n mynd i’r de drwy erddi cynhenid Ffrainc a’r Eidal, cyn dychwelyd i Ynys Gybi yng nghwmni un o feirdd mwyaf Cymru, RS Thomas, wrth iddo hel atgofion am ei blentyndod yng Nghaergybi.
Cerddoriaeth gan Grieg, Sinding, Chopin, Liszt, a Debussy.
Gwnewch hi’n ddiwrnod perffaith trwy gael sgons, bara brith a mefus (efallai o’r Ardd Gegin) ar ôl i’r cyngerdd ddod i ben am 4pm:
Rhaid archebu lle ymlaen llaw am de am £4.50 y pen.
Dydd Sul 16 Hydref am 3pm Morluniau