Un tro, byddai pawb yn eistedd o amgylch y tân yn y misoedd tywyll ac yn adrodd straeon bob nos. ers dyfodiad argraffu torfol ac addysg, mae llawer o bobl yn teimlo’n llai hyderus i sefyll i fyny ac adrodd stori. Yn y gweithdy hwn bydd y storïwr Claire Mace yn rhannu tri phecyn y gallwch chi weithio gyda nhw i fagu hyder wrth adrodd straeon heb nodiadau, boed hynny’n rhannu eich gwaith eich hun neu’n chwedl draddodiadol.