Lighthouse Theatre yn cyflwyno A Christmas Carol

Theatr
Sadwrn 2 Rhagfyr 7:30 pm
Mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd y gaeaf hwn gyda fersiwn ddrama radio fyw o chwedl glasurol hirhoedlog Dickens, A Christmas Carol

drama i swyno’r hen a’r ifanc fel ei gilydd yn llawn teimladau Nadoligaidd, cyfarfyddiadau ag ysbrydion, caledi ac achubiaeth.

Addasiad ar gyfer y llwyfan gan Joe Landry gyda cherddoriaeth gan Kevin Connors

Efrog Newydd, 1946. Dim ond newydd orffen mae’r Ail Ryfel Byd. Mae actorion WBFR Playhouse of the Air yn cyfarfod yn y stiwdio ar gyfer eu darllediad Noswyl Nadolig blynyddol. Pa sgriptiau gwell i’w cyfarch eleni, na’r hen glasur gan Dickens o gan mlynedd yn ôl a luniodd y Nadolig ei hun?

Mae llond llaw o actorion o’r Unol Daleithiau yn dod â dwsinau o gymeriadau Fictoraidd o’r Hen Lundain yn fyw, wrth i’r stori gyfarwydd ddatblygu…Mae tri ysbryd yn mynd ag Ebenezer Scrooge ar daith i ddysgu gwir ystyr y Nadolig iddo….

Yn dilyn llwyddiannau It’s A Wonderful Life a Miracle on 34th Street, mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd, yn ôl y galw mawr, gyda Chlasur Nadolig arall. Wedi’i gosod mewn stiwdio ddarlledu New York Live o’r 1940au, bydd A Christmas Carol yn teithio ledled Cymru, gan ddod â phrofiad theatrig a darlledu unigryw i theatr yn eich ardal chi.

Cyfarwyddwyd gan Joe Harmston | Cynlluniwyd gan Sean Cavanagh | Artist Foley, cyfarwyddwr cerdd a cherddoriaeth wreiddiol ychwanegol – Kieran Bailey.
Cyd-gynhyrchiad gan Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd.

£12, £10 gostyngiadau, £4 plant
Holyhead Boatyard

Cysylltwch

Cyfeiriad:
Ucheldre Centre, Millbank, Holyhead, Isle of Anglesey, LL65 1TE
Ffôn: 01407 763361
E-bost:

Oriau Agor:
10am – 5pm Dydd Llun – Dydd Sadwrn
2pm – 5pm Dydd Sul

© 2022 Hawlfraint Ucheldre Caergybi