Mae’r pianydd cyngherddau rhyngwladol Iwan Llewelyn-Jones yn dychwelyd i Ucheldre ar ôl galw mawr am gyfres o gyngherddau prynhawn Sul ym mis Mawrth, Mehefin, Awst a Hydref 2023.
Ar gyfer ei ail ddatganiad prynhawn, mae Iwan yn talu teyrnged i ddawn ryfeddol yr artist Charles Tunnicliffe a fu’n byw ac yn gweithio ar Ynys Môn ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ac a ddaeth ag adar yr ynys yn fyw ar gynfas. Mae’r rhaglen hon o gerddoriaeth unawd piano yn cynnwys gweithiau gan Mendelssohn, Granados, a Ravel, ynghyd â thrawsgrifiadau Iwan ei hun o ‘Caneuon y Tri Aderyn’ gan Dilys Elwyn Edwards.
Te hufen prynhawn ar ôl y Cyngerdd ar gael yng Nghegin Ucheldre. Archebwch y rheini drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01407 763361.
Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur:
Dydd Sul 13eg Awst am 3pm
Dydd Sul 15fed Hydref am 3pm