Blodeugerdd / The Great Welsh Songbook

Cerddoriaeth
Sadwrn 4 Hydref 7:30 pm
Tomos Williams returns to Canolfan Ucheldre with his re-imagining of music from the Welsh folk tradition.

Ma’r trwmpedwr Tomos Williams yn dychwelyd i Aberystwyth gyda’i brosiect newydd sy’n ail-ddychmygu cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Mae’r band ‘Blodeugerdd / The Great Welsh Songbook’ yn cynnwys sêr y sîn jazz Cymreig: Huw Warren (piano) Paula Gardiner (bas) a Mark O’Connor (drymiau), a bydd Rachel Musson yn ymuno ar y tenor sax, y gantores ifanc arbennig Eadyth Crawford yn ogystal a Tomos ar y trwmped.

Teilt chwareus ywr ‘Great Welsh Songbook’ sy’n tynnu ar yr enw ‘The Great American Songbook’ sef conglfaen nifer o alawon a chyfansoddiadau’r byd jazz. Bydd ‘Blodeugerdd’ yn cynnwys trefniannau newydd o alawon gwerin Cymreig yn y traddodiad jazz Ewropeaidd – gan dynnu ysbrydoliaeth o Wlad Pwyl i’r Eidal, Ffrainc i’r Ffindir. Bydd y band hefyd yn perfformio cyfansoddiad newydd wedi’i gomisiynu gan Ganolfan Ucheldre. Meddyliwch am sŵn jazz adnabyddus ECM – gyda llais Cymreig.

Diolch i Ganolfan Ucheldre ac i Dŷ Cerdd am nawdd i gyfansoddi’r gerddoriaeth newydd ac i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth am gefnogi’r prosiect.

Tomos Williams – trwmped

Eadyth Crawford – llais

Rachel Musson – tenor sax

Huw Warren – piano

Paula Gardiner – bas

Mark O’Connor – drymiau

Holyhead Boatyard

Cysylltwch

Cyfeiriad:
Ucheldre Centre, Millbank, Holyhead, Isle of Anglesey, LL65 1TE
Ffôn: 01407 763361
E-bost:

Oriau Agor:
10am – 5pm Dydd Llun – Dydd Sadwrn
2pm – 5pm Dydd Sul

© 2022 Hawlfraint Ucheldre Caergybi