Taith Trenau Al Lewis 2025

Cerddoriaeth
Sadwrn 3 Mai 7:30 pm
Y gwanwyn hwn bydd Al Lewis, y canwr/cyfansoddwr dwyieithog o Ben Llyn, yn cychwyn ar daith unigryw mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru; wrth iddo ymweld â threfi a dinasoedd ar hyd rhwydwaith rheilffyrdd odidog Cymru.

Gyda 2025 yn dynodi 200 mlynedd ers sefydlu’r rheilffordd fodern; bydd Al nid yn unig yn ymweld a rhannau newydd o’r wlad, ond hefyd yn ymgymryd â dull fwy amgylcheddol a chymdeithasol o deithio, gan ddangos sut y gall cerddorion wneud eu rhan i helpu ni i leihau ein hôl troed carbon.

Mi fydd Al yn dod â’i gyfuniad o gerddoriaeth Gymraeg a Saesneg i leoliadau cyfareddol fel y Neuadd Bentref ym Mhortmeirion ag Eglwys syfrdanol Sant Tudno ar ben y Gogarth yn Llandudno.

Mae’r daith yn dilyn cyfres hynod lwyddiannus o sioeau wnaeth Al dros gyfnod y ‘Dolig lle werthwyd pob tocyn ar gyfer lleoliadau ledled Cymru o Galeri yng Nghaernarfon i ddwy noson yn Eglwys Sant Ioan, Caerdydd.

Cafodd albwm diweddaraf Al, ‘Fifteen Years’, sylw sylweddol ar yr awyr a chanmoliaeth eang gan y beirniaid ar draws rhwydwaith y BBC a gan orsafoedd a chyhoeddiadau ledled Ewrop a’r Unol Daleithiau.

Caneuon gwerin â ddylanwad Celtaidd gyda naws o Nashville sy’n ymledu’n ysgafn i’n hymwybyddiaeth.” Rolling Stone (7/10)

“Mae hon yn albwm hyfryd – hynod bersonol, ond hyd yn oed yn fwy effeithiol iddi – caneuon angerddol a chadartig sy’n symud ac yn ysbrydoli yn gyfartal.” Americana DU (7/10)

“Casgliad llawn angerdd roc gwerin, grisiau i catharsis.” MOJO (4/5)

Edrychodd ar themâu cyffredinol galar ac iachâd drwy ei brofiad ei hun o ddechrau ymdopi â cholli ei dad tra’n gobeithio helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Mae Al wedi rhyddhau sawl albwm, wedi ennill Cân + Albwm Gorau yng Ngwobrau Americana y DU (fel rhan o Lewis & Leigh) wedi’i enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Albwm Gymraeg y Flwyddyn a Gwobrau Gwerin Cymru (am ei sengl arloesol ‘The Farmhouse’).

Mae ei albymau i gyd wedi treulio sawl wythnos yn #1 ar y siartiau Cymraeg.

Mae Al wedi perfformio mewn digwyddiadau eiconig fel Gŵyl Glastonbury, Gŵyl Gerdd Americana Nashville, Gŵyl Werin Philadelphia, Gŵyl Lorient (Llydaw) a Celtic Connections yn Glasgow. Ei sengl yn seiliedig ar stori Dylan Thomas, ‘A Child’s Christmas in Wales’ oedd y gân gyntaf i’w chanu’n rhannol yn Gymraeg i’w gwneud hi ar restr chwarae BBC Radio 2 ac ers hynny mae artistiaid mor amrywiol â Gary Barlow a John Owen Jones wedi gwneud ferisynnau ohonni.

Roedd ei albwm 2020 ‘Te yn y Grug’ yn ddarn cysyniadol corawl-gwerin a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer y sioe gerdd o’r un enw ac fe’i perfformiwyd yn y pafiliwn orlawn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2019.

2 awr
£12, £10 gostyngiadau, £4 plant
Holyhead Boatyard

Cysylltwch

Cyfeiriad:
Ucheldre Centre, Millbank, Holyhead, Isle of Anglesey, LL65 1TE
Ffôn: 01407 763361
E-bost:

Oriau Agor:
10am – 5pm Dydd Llun – Dydd Sadwrn
2pm – 5pm Dydd Sul

© 2022 Hawlfraint Ucheldre Caergybi