Bydd y gerddorfa yn teithio i 10 lleoliad ledled Cymru, gan gyflwyno rhaglen newydd ac amrywiol a fydd yn apelio at gynulleidfaoedd o bob oed. Yn ei 40fed tymor, bydd y gerddorfa’n chwarae 40fed Symffoni Mozart a ‘Danse Sacrée et Danse Profane’ gan Debussy gyda’r cyn Delynores Frenhinol Alis Huws, yn ogystal â threfniant newydd gan Paul Mealor o’i Folk Songs for Baritone & Strings.