Disgwyliwch serenadau torcalonnus, cuddwisgoedd chwerthinllyd a diweddglo stori dylwyth teg yn aros ychydig allan o gyrraedd. O rif agoriadol enwog y barbwr ‘Largo al factotum,’ gyda’i gri o ‘Figaro! Figaro!,’ i aria feisty Rosina ‘Una voce poco fa,’ mae opera gomig Gioachino Rossini yn ddigwyddiad difyr tu hwnt. Mae Rafael Payare yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol gan arwain cast rhyngwladol rhagorol sy’n cynnwys Andrzej Filończyk, Aigul Akhmetshina, Lawrence Brownlee a Bryn Terfel.
Cenir yn Eidaleg gydag isdeitlau Saesneg