Mae’r bale wedi’i ysbrydoli gan nofel Laura Esquivel – saga deuluol gyfareddol lle mae emosiynau’r cymeriad canolog yn gorlifo drwy goginio i ddylanwadu ar bawb o’i chwmpas mewn ffyrdd syfrdanol a dramatig. Yn y cyd-gynhyrchiad hwn ag American Ballet Theatre, mae’r arweinydd Mecsicanaidd Alondra de la Parra hefyd yn gweithredu fel ymgynghorydd cerdd ar gyfer sgôr newydd Talbot a gomisiynwyd, ac mae Wheeldon wedi gweithio’n agos gydag Esquivel i ail-lunio ei stori haenog gyfoethog yn fale newydd ddifyr a gafaelgar.