NT yn Fyw: The Motive and the Cue

Broadcasts
Iau 18 Chwefror 7:00 pm
By Jack Thorne directed by Sam Mendes.

Mae’r ddrama bum seren, sy’n ffyrnig ac yn ddoniol, yn dychwelyd i’r sgrin fawr. Mae Sam Mendes (The Lehman Trilogy) yn cyfarwyddo Mark Gatiss mewn perfformiad a enillodd Wobr Olivier, lle mae’n portreadu John Gielgud.

1964: Mae Richard Burton (Johnny Flynn) – sydd newydd briodi Elizabeth Taylor (Tuppence Middleton) – ar fin chwarae rhan deitl cynhyrchiad newydd ac arbrofol o Hamlet ar Broadway, o dan gyfarwyddyd manwl a llym Gielgud. Ond wrth i’r ymarferion fynd rhagddynt, mae dau gyfnod gwahanol yn hanes y theatr yn gwrthdaro, ac mae’r cydweithio rhwng yr actor a’r cyfarwyddwr yn bygwth chwalu.

O waith yr awdur Jack Thorne (Adolescence) – sydd wedi ennill nifer o wobrau – cafodd y cynhyrchiad clodwiw hwn ei ffilmio’n fyw yn ystod ei rediad yn Llundain yn 2023, lle gwerthwyd pob tocyn.

180 munud TBC
£13, £11 gostyngiadau, £4 plant
Holyhead Boatyard

Cysylltwch

Cyfeiriad:
Ucheldre Centre, Millbank, Holyhead, Isle of Anglesey, LL65 1TE
Ffôn: 01407 763361
E-bost:

Oriau Agor:
10am – 5pm Dydd Llun – Dydd Sadwrn
2pm – 5pm Dydd Sul

© 2022 Hawlfraint Ucheldre Caergybi