Mae Jack, sydd wedi bod yn briod â Maggie ers dros hanner ei oes, yn gweithio ar y gwelyau cregyn gleision yng Ngogledd Cymru ochr yn ochr â’i frawd iau, Dyfan, a thri mab Dyfan.
Mae Jack wastad wedi tybio y bydd ei fab ei hun yn ymuno â busnes y teulu ar ôl gadael yr ysgol, ond mae gwrthodiad Tom i ddilyn yn ei ôl-traed yn creu tensiwn yn y teulu. Mae’r tensiynau’n dwysáu ymhellach wrth i Daniel, morwr teithiol, gyrraedd a datgelu ei deimladau tuag at Jack.
Yn y gymuned wledig ac anghysbell hon, mae Jack yn wynebu cyfyng-gyngor amhosibl. Mae *On The Sea* yn archwiliad hardd, synhwyraidd ac, ar adegau, trasig o wrywdod, lle a dyhead.