Ysgol Roc Ucheldre

Gweithdai
Iau 2 Gorffennaf 4:00 pm
Mae ein cwrs 6 wythnos wedi’i gynllunio i’ch arwain o’ch syniadau cerddorol cyntaf at berfformiad byw hyderus. Byddwch yn dysgu hanfodion cyfansoddi caneuon, chwarae mewn band, a recordio demos, gan adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer creu eich cerddoriaeth eich hun. Ar hyd y daith, byddwch yn cydweithio ag eraill, yn datblygu eich sŵn, ac yn magu hyder wrth berfformio.
Byddwch yn cael eich arwain gan gerddorion profiadol Malan Fon a Gethin Griffith, sy’n dod â profiad o ysgrifennu, recordio a pherfformio i’r cwrs. Daw’r cwrs i ben gyda pherfformiad byw, gan roi cyfle i chi arddangos yr hyn rydych wedi’i greu.
Ymunwch â ni am brofiad hwyliog a chroesawgar – p’un a ydych yn hoffi rocio’n uchel, canu’n dawel, neu unrhyw beth yn y canol. Dewch â’ch offeryn eich hun os hoffech, neu defnyddiwch ein rhai ni – byddwn yn darparu bob dim sydd ei angen arnoch.
Holyhead Boatyard

Cysylltwch

Cyfeiriad:
Ucheldre Centre, Millbank, Holyhead, Isle of Anglesey, LL65 1TE
Ffôn: 01407 763361
E-bost:

Oriau Agor:
10am – 5pm Dydd Llun – Dydd Sadwrn
2pm – 5pm Dydd Sul

© 2022 Hawlfraint Ucheldre Caergybi