Billy Thompson & Rhi Jorj a’r Band

Cerddoriaeth
Gwener 5 Rhagfyr 7:30 pm
Cerddoriaeth Fyw gan Billy Thompson a Rhi Jorj a'r Band.Mae'r perfformiad hwn yn rhan o ddigwyddiad agoriadol arddangosfa Wanda a David Garner 'Pantomeim/Y Tu Ôl i'r Mwgwd'.

Mae Rhi Jorj wedi bod nôl ar y sîn gerddoriaeth Gymreig ers mis Mawrth eleni pan rhyddhawyd ei EP ‘Amser’. Yn gyn athrawes bu newid byd pan gafodd ddiagnosis o glefyd prin Addison  yn ’23 ac yn reddfol trodd tuag at gyfansoddi yn y broses o wella a chryfhau. Bu yn brif leisydd yn y band Ust pan yn ifanc ac hefyd yn y band Amledd gan gyda ei gwr, y feiolinydd  Billy Thompson. Mae Rhi bellach yn gerddorwraig llawn amser ac yn perfformio o amgylch y wlad yn perfformio gyda ei band talentog. Mae Billy wedi recordio a chynhyrchu ei albwm diweddar sef Ysgafn sy’n gymysgedd o ganeuon Rhi o Farrakesh i Gysgodi yn y Coed gyda alawnon melodaidd a hudolus ac eraill gyda storm o symud agyda Billy ar ei feiolin yn gyrru y cwbwl. Mae sŵn y band gyda llais unigryw Rhi yn gwneud y band hwn yn wahanol i unrhyw un arall ar y sîn Gymreig. Mar Rhi yn ei gweld yn fraint cael bod nôl yn perfformio ac yn mwynhau pob eiliad o rannu ei chaneuon gyda chynulleidfaoedd lu.

Mae’r perfformiad hwn yn rhan o ddigwyddiad agoriadol arddangosfa Wanda a David Garner ‘Pantomime/Behind the Mask’. Dewch i gyrraedd rhwng 6.30 a 7.00 i siarad â’r artistiaid cyn y perfformiad a fydd hefyd yn dangos ffilm fer am y tro cyntaf yn cynnwys cydweithrediad rhwng Natasha Dawkes a Rhian Jorj.


Y BAND –

Llais – Rhi Jorj
Feiolyn – Billy Thompson
Gitâr/Banjo/Manoolin – Eryl Jones
Gitâr – Sam Thompson
Bas Dwbwl – Paul Cook
2awr
£10, £8 gostyngiadau, £5 plant
Holyhead Boatyard

Cysylltwch

Cyfeiriad:
Ucheldre Centre, Millbank, Holyhead, Isle of Anglesey, LL65 1TE
Ffôn: 01407 763361
E-bost:

Oriau Agor:
10am – 5pm Dydd Llun – Dydd Sadwrn
2pm – 5pm Dydd Sul

© 2022 Hawlfraint Ucheldre Caergybi