Bydd yr olaf yn y gyfres hon o 3 Gweithdy/Sesiwn Hyfforddi yn cynnig cyfle i gantorion, o bob lefel, baratoi caneuon unigol a/neu ensembles, ac yna eu perfformio mewn digwyddiad elusennol a gynhelir yn Ucheldre ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr.
Fel bob amser bydd gennym sesiwn agoriadol fer wedi’i neilltuo i wella anadlu a chynhesu’r llais cyn gweithio’n gerddorol ar y repertoire a ddewiswyd. Ar ôl egwyl te byr, byddwn wedyn yn gweithio ar ddatblygu hyder wrth berfformio ein rhaglen yn ein hawyrgylch anffurfiol a chefnogol arferol.