Mae’r Ŵyl yn anodd i bawb eleni, yn enwedig Mam, gan ma’i hwn ydi’r Nadolig cynta’ heb Taid. Ac mae’n beryg i betha’ waethygu wrth i’r efeilliaid dorri cloch Nadolig Taid. Os na wnawn nhw ei thrwshio hi, fydd Nadolig Mam wedi ei ddifetha’n llwyr! Pwy sydd yn dda am drwshio petha? Corachod Siôn Corn wrth gwrs!