Mae Y Bont/The Bridge yn gydweithrediad rhwng tîm creadigol profiadol ac IDEAL, rhaglen ymchwil dementia sydd wedi hen ennill ei phlwyf. Mae ymchwil a phrofiad go iawn yn cwrdd yn y prosiect hwn a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y mae pobl gyda dementia a gofalwyr yn cyfrannu ato.
“Dod o hyd i’r llawenydd”— wrth i ddyn gael i wthio i dywyllwch nad yw’n gallu ei reoli, mae ei anwyliaid yn dysgu creu eiliadau o gariad, dealltwriaeth, hunan-werth a hyd yn oed hiwmor i’w helpu i groesi’r bont rhwng realiti a’i feddwl ei hun. Mae’n archwilio’r ystod o emosiynau a brofwyd ar y daith dementia, wrth i unigolyn symud o ddiagnosis cynnar i therapïau amgen, gan wynebu cyfathrebu cymysg gan aelodau o’r teulu a gweithwyr proffesiynol ar yr un pryd. Y bariton o Gymru, Kiefer Jones, sy’n chwarae’r brif ran.
Mae’r perfformiad hwn yn Saesneg.
Mae’r perfformiad hwn yn cael ei ffilmio, ond ni fydd y gynulleidfa’n cael ei dangos.
Ar ôl y perfformiad, bydd sesiwn Holi ac Ateb gyda’r tîm creadigol ac ymchwil ar gyfer y rheini a fyddai’n hoffi aros. Nid yw pob cyflwynydd yn siarad Cymraeg, felly bydd rhywfaint o gyfieithu.
Cynhelir gweithdy cymunedol rhad ac am ddim hefyd sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad hwn ac yn cael ei gynnal am 4pm cyn yr opera. Cliciwch yma i ddarllen mwy ac i archebu eich tocyn am ddim.
[5 – 7 pm Mae prydau cyn-perfformiad ar gael i’w harchebu o Swyddfa Docynnau Ucheldre 01407 763361]