Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
Archebwch eich tocyn am ddim i ddod i drafod dementia yn eich cymuned leol.
Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn yn cael ei arwain gan Dr Catherine Charlwood (rhaglen ymchwil dementia IDAL) ac Emma Raweck (Cydlynydd Dementia Cyngor Gwynedd).
Byddwn yn rhannu rhai canfyddiadau o raglen ymchwil dementia IDEAL ac yn rhoi adnoddau i chi o’r Pecyn Cymorth Byw gyda Dementia, ond rydyn ni wir eisiau clywed gennych chi. Yn unol â thema’r opera ‘Y Bont / The Bridge’, byddwn yn gofyn beth, yn eich barn chi, all eich helpu i gadw mewn cysylltiad â’ch cymuned leol, a beth y gellid ei wella.
Dewch draw am sgwrs ddiddorol a chyfle i rannu eich straeon!
Gail Gregory, sy’n byw gyda dementia, sy’n gyfrifol am y gwaith celf.