Ar ôl i long gargo suddo yng nghanol y Môr Tawel helaeth, mae bachgen 16 oed o’r enw Pi yn sownd ar fad achub gyda phedwar o oroeswyr eraill – hyena, zebra, orangutan a theigr Royal Bengal. Mae amser yn eu herbyn, mae natur yn llym, pwy fydd yn goroesi?
Wedi’i ffilmio’n fyw yn West End Llundain ac yn cynnwys delweddau o’r radd flaenaf, mae’r daith epig o ddygnwch a gobaith yn dod yn fyw mewn ffordd newydd syfrdanol ar gyfer sgriniau sinemâu.
I wylio’r rhaghysbyseb dilynwch y ddolen hon