Mae Ben Tunnicliffe yn chwaraewr bas a ddechreuodd ei yrfa broffesiynol yn ei arddegau ac mae ei lwyddiannau’n dangos ei fod yr un mor angerddol yn archwilio gwerin acwstig ag y mae’n ail-greu cerddoriaeth electronig.
Gan arloesi’r defnydd o syntheseisydd fel yr offeryn bas, mae Ben gyda’i bedwarawd yn creu tirwedd etheraidd sy’n uno pen isel tebyg i driawd organ â phosibiliadau sonig blaen y diwylliant electronig.
Ar eu taith gyntaf, bydd dull gweithredu llawr gwlad Ben yn dod â’r drymiwr Alex Goodyear, yr aml-offerynnwr Maria Lamburn a bysellfwrddwr i bob cornel o’r DU, gan rannu tirwedd estron sy’n meiddio sefyll ar ei phen ei hun ymhlith grwpiau Jazz eraill sydd wedi’u cyffwrdd â synth heddiw.